Gwarchod eich preifatrwydd

Polisi preifatrwydd

Bydd SLC yn gweithredu mewn cytundeb â’r ddeddfwriaeth mewn grym gyda golwg ar brosesu eich data personol, ac mae’n rheolwr data o’r data personol a ddarparwyd gennych ac mae’n ymrwymedig i barchu eich preifatrwydd ar-lein. Byddwn yn gosod diogelwch a rheoaleth o unrhyw wybodaeth bersonol y rhannwch â ni. Bydd lefel y diogelwch yn cael ei seilio ar asesiad y niwed sy’n debygol o gael ei asesu gan y golled neu ddatgeliad anawdurdodedig y wybodaeth bersonol a roesoch i ni. Caiff y wybodaeth a ddarparwyd gennych ei brosesu gan SLC mewn cytundeb â deddfwriaeth gwarchod data perthnasol. Mae’r Polisi Preifatrwydd yn cynnwys holl wefannau a weithredwyd gan Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr ond nid ydyw’n ymestyn i ddolenni i wefannau allanol eraill o fewn y wefan yma.

Rydym yn ymrwymedig i warchod preifatrwydd a diogelwch y wybodaeth yr ydych yn ei gyflwyno i ni. Caiff yr holl wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych ei drosglwyddo fesul cysylltiad wedi ei ddiogelu. Caiff hyn ei gwblhau o dan darn amgryptio 128 SSL (lefelau Soced Diogel), sef safon diogelwch blaenllaw ar gyfer trosglwyddiad o ddata o fewn diwydiant e-wasanaethau.

Efallai y byddwn yn monitro defnydd o’n gwefan i’n galluogi i ddiweddaru a theilwra yr un anghenion â’n defnyddwyr. Efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnod o’r dolenni hynny sydd yn cael eu defnyddio’n fwyaf rheolaidd, felly yn ein galluogi ni i ddarparu y wybodaeth fwyaf defnyddiol i’n defnyddwyr. Fel rhan o weithred ein gwasanaeth, efallai bydd rhai o’n tudalennau gwe yn defnyddio cwcis (a thechnolegau llwybro eraill). “Cwci” yw ffeil testun bach wedi ei llwytho i lawr ar yriant caled eich cyfrifiadur a phrif amcan cwci ydy adnabod defnyddwyr a phersonoli eu hymweliad drwy gwsmereiddio tudalennau gwe iddynt hwyr er enghraifft drwy eu croesawu hwy gan ddefnyddio eu henw y tro nesaf maent yn ymweld â’r un safle. Mae hyn yn ein galluogi ni i gasglu gwybodaeth fel yr amser a dreulir ar ein gwefan a’r tudalennau a ddefnyddiwyd. Mae’r cwcis ar y wefan yma ond yn ddilys tra eich bod yn defnyddio ein gwasanaeth a byddant yn dod i derfyn pan fyddwch yn allgofnodi ac yn cau ffenest eich porwr.

Nid ydym yn gweithredu unrhyw lwybro tymor-hir o’ch ymweliadau i’n safle gyda chwcis a gallwch bob amser ddileu eich cwcis pan rydych yn gwaredu eich ffeiliau rhyngrwyd dros-dro. Er hynny, dylech nodi y bydd hyn yn effeithio holl safleoedd sydd wedi darparu cwcis, nid rhai ni yn unig. Mae gwybodaeth pellach ar ddileu neu reoli cwcis ar gael drwy ymweld â www.aboutcookies.org. Dylid nodi na fydd ein gwefan yn gweithio heb cwcis.

Byddwn yn prosesu, defnyddio a datgelu gwybodaeth yr ydym yn ei gasglu oddi wrthych, neu yr ydych yn ei ddarparu i ni, yn y dulliau canlynol:

  • I helpu i ddarparu gwasanaethau i chi.
  • I weinyddu eich cyfranogiad yng Nghynllun Benthyciadau Myfyriwr.
  • I drefnu casgliad o ad-daliadau a wnaed gennych chi mewn perthynas â’ch Cyfrif Cyllid Myfyriwr.
  • I sicrhau bod cynnwys o’n safle yn cael ei gyflwyno yn y dull mwyaf effeithiol ar eich cyfer chi a’ch cyfrifiadur.
  • I’ch darparu gyda gwybodaeth ar wasanaethau yr ydych yn eu gofyn amdano oddi wrthym neu yr ydym yn meddwl y bydd o ddiddordeb i chi.
  • I weithredu ein rhwymedigaethau ac ymarfer ein hawliau sy’n codi o unrhyw gytundebau a fynedwyd rhwng y chi a ni.
  • I’ch caniatáu i gymryd rhan mewn pethau rhyngweithiol o’n gwasanaethau, pan y dewiswch wneud hynny.
  • I’ch hysbysu am newidiadau i’n gwasanaeth.
  • I fonitro perfformiad y wefan.

Ni fydd SLC yn cyflenwi, trosglwyddo, neu fel arall yn darparu eich data personol i unrhyw trydydd parti, heblaw ble sydd ei angen neu a ganiateir gan gyfraith. Am fanylion pellach am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei ddefnyddio, pwy sydd yn gyfrifol amdano a’r hawliau sydd gennych mewn cysylltiad gydag ef, cyfeiriwch Datganiad Rhybudd Preifatrwydd os gwelwch yn dda.

Mae gennym rwymedigaeth cyfreithiol mewn cytundeb â deddfwriaeth gwarchod data perthnasol i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gedwir ac a’i brosesir amdanoch yn cael ei gadw’n gywir ac wedi ei ddiweddaru. Pe fyddech yn darganfod bod SLC yn cadw data personol yn ymwneud â chi sy’n anghywir, rhowch wybod i SLC mor gynted ag sy’n bosibl. Yna fe fydd SLC yn diweddaru ei gofnodion, ac yn hysbysu trydydd parti i bwy y fyddai’r fath ddata personol efallai wedi ei gyflenwi yn unol â’r polisi yma.

Nid bwriad y polisi preifatrwydd yma ydy – nac ydyw’n – creu unrhyw hawliau cytundebol neu gyfreithiol. Mae, fodd bynnag, yn ganllaw i’n safonau gwarchod ar-lein.