Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (Student Loans Company Limited)

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (Student Loans Company Limited). Bwriedir iddi gael ei defnyddio gan gynifer ag sy’n bosibl o bobl. Dylai fod modd i chi:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo maint y testun i 400% heb fod y testun yn mynd o’r golwg ar y sgrîn
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS (Job Access with Speech), NVDA (Non-Visual Desktop Access) a VoiceOver

Rydym wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd i’w ddeall ag sy’n bosibl.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

I ba raddau y mae’r wefan hon yn hygyrch

Rydym yn gwybod nad yw rhai o’r rhannau canlynol o’r wefan yn hollol hygyrch:

  • mae dogfennau hŷn yn ddogfennau PDF, ac nid ydynt yn hollol hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrîn
  • yn y gwasanaeth i fyfyrwyr rhan-amser, mae’r darllenydd sgrîn yn darllen opsiynau ynghyd â thestun y dolenni cyswllt, sy’n creu proses hir i ddefnyddwyr
  • nid yw’r dogfennau PDF yn ddogfennau y mae modd eu golygu’n gyfan gwbl
  • nid oes gan ddelweddau destun amgen clir a disgrifiadol
  • nid oes gan wijets hyperddolenni neu labeli disgrifiadol
  • nid oes gan dagiau HTML y nodwedd gywir o ran iaith
  • nid yw rhai o nodweddion y wefan yn gydnaws â phob porwr gwe
  • nid yw bariau cynnydd yn dweud yn glir wrth y defnyddiwr ble’n union y mae yn y broses
  • nid oes neges benodol am wall yn cael ei chyhoeddi ar y darllenydd sgrîn
  • gall problemau nad ydynt yn ymwneud â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (problemau gyda darllenydd sgrîn NVDA) ddigwydd, yn dibynnu ar ba fersiynau y mae’r cwsmer yn eu defnyddio
  • yn y gwasanaeth i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, mae gan y wefan Gymraeg dair problem lle nad yw’r iaith yn cael ei phennu, yn cael ei chyfieithu nac yn dangos y cod iaith cywir
  • mae’r dolenni cyswllt ar gyfer symud i’r prif gynnwys yn mynd i’r maes anghywir mewn rhai rhannau o’r wefan

Beth y dylech ei wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon

Os oes arnoch angen unrhyw rai o’n llythyrau, ein ffurflenni neu’n canllawiau mewn Braille neu brint bras, anfonwch e-bost i brailleandlargefonts@slc.co.uk gan nodi:

  • eich cyfeiriad
  • eich Cyfeirnod Cwsmer
  • beth y mae arnoch ei angen mewn Braille neu brint bras
  • ar gyfer print bras, pa faint ffont a pha fath o ffont y mae arnoch eu hangen

Bydd yr amserlen ar gyfer ymateb i’r ceisiadau hyn yn amrywio’n ôl y cynnwys a faint o’r ohebiaeth y mae angen ei throsi. Gall ceisiadau i drosi gohebiaeth i Braille gymryd hyd at 4-6 wythnos, a gall ceisiadau i ddarparu gohebiaeth mewn print bras gymryd hyd at 2-3 wythnos.

Os na allwch gyrchu unrhyw rannau eraill o’n gwefan, rhowch wybod i ni trwy gysylltu â ni yn accessibility@slc.co.uk.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun ar gyfer pobl F/fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw neu bobl sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd ar gyfer y sawl sy’n cael anhawster clywed ac sy’n ymweld â’n swyddfeydd yn bersonol. Neu, os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu bod dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain ar gael.

Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â ni trwy fynd i https://www.gov.uk/government/organisations/student-loans-company.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau’n hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (“y Rheoliadau Hygyrchedd”).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (“Canllawiau Hygyrchedd 2.1”) o ganlyniad i’r pwyntiau bwled a nodir isod:

  • mae dogfennau hŷn yn ddogfennau PDF, ac nid ydynt yn hollol hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrîn. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 4.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (cydnawsedd)
  • yn y gwasanaeth i fyfyrwyr rhan-amser, mae’r darllenydd sgrîn yn darllen opsiynau ynghyd â thestun y dolenni cyswllt, sy’n creu proses hir i ddefnyddwyr. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (pwrpas dolen gyswllt – mewn cyd-destun)
  • nid yw’r dogfennau PDF yn ddogfennau y mae modd eu golygu’n gyfan gwbl. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 4.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (cydnawsedd)
  • nid oes gan ddelweddau destun amgen clir a disgrifiadol. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (cynnwys nad yw’n destun)
  • nid oes gan wijets hyperddolenni neu labeli disgrifiadol. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.2 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (labeli neu gyfarwyddiadau)
  • nid oes gan dagiau HTML y nodwedd gywir o ran iaith. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (iaith tudalen)
  • nid yw rhai o nodweddion y wefan yn gydnaws â phob porwr gwe. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 4.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (cydnawsedd)
  • nid yw bariau cynnydd yn dweud yn glir wrth y defnyddiwr ble’n union y mae yn y broses. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.10 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (penawdau adrannau)
  • nid oes neges benodol am wall yn cael ei chyhoeddi ar y darllenydd sgrîn. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (adnabod gwallau)
  • gall problemau nad ydynt yn ymwneud â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (problemau gyda darllenydd sgrîn NVDA) ddigwydd, yn dibynnu ar ba fersiynau y mae’r cwsmer yn eu defnyddio. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 4.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (cydnawsedd)
  • yn y gwasanaeth i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, mae gan y wefan Gymraeg dair problem lle nad yw’r iaith yn cael ei phennu, yn cael ei chyfieithu nac yn dangos y cod iaith cywir. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.1 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (iaith tudalen), maen prawf llwyddiant 4.1.1 (dosrannu) a maen prawf llwyddiant 3.1.2 (iaith rhannau)
  • mae’r dolenni cyswllt ar gyfer symud i’r prif gynnwys yn mynd i’r maes anghywir mewn rhai rhannau o’r wefan. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (trefn ffocws)

Cynnwys nad yw’r Rheoliadau Hygyrchedd yn berthnasol iddo

Nid oes angen i ddogfennau nad ydynt yn ddogfennau HTML, a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018, fod yn hygyrch – oni bai bod ar ddefnyddwyr eu hangen i ddefnyddio gwasanaeth.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon

Cafodd y wefan ei phrofi’n bennaf gan ddefnyddio darllenydd sgrîn NVDA ym mhorwr Chrome, a chafodd gwiriadau ychwanegol eu cynnal gan ddefnyddio darllenydd sgrîn JAWS a phorwr Firefox. Cafodd y profion eu cynnal i safon AA Canllawiau Hygyrchedd 2.1 ar bob golwg bwrdd gwaith a golwg dyfais symudol, gan gynnwys golwg chwyddo lefel uchel.

Cafodd y gwaith profi ei gyflawni gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu gan dimau cyflawni trydydd parti y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, gydag archwiliadau llawn a manwl yn cael eu cyflawni gan ymgynghorwyr uservision.

Cynhaliwyd yr archwiliadau’n ôl y newidiadau i bob gwasanaeth, a chafodd archwiliadau eu cynnal o adrannau newydd a ychwanegwyd neu o adrannau a newidiwyd. Cafodd y dechnoleg Salesforce newydd ei harchwilio’n llawn yn ei chyfanrwydd rhwng mis Awst 2021 a mis Rhagfyr 2021.

Cafodd adolygiadau llawn a manwl eu cynnal ym mis Mawrth 2022 o’r diweddariadau i’r broses gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Cafodd y gwasanaeth i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig ei adolygu ym mis Ebrill 2022 ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Rhoesom brawf ar ein meysydd rheoli cyfrifon cwsmeriaid, sydd ar gael trwy ddilyn y dolenni cyswllt canlynol:

Adrodd ynghylch problemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wneud y wefan hon yn fwy hygyrch. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch ag: accessibility@slc.co.uk

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd. Os byddwch yn anfodlon â’r modd y bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) neu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Beth yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu cywiro llawer o’r problemau a nodwyd yn ystod archwiliad mis Mawrth a mis Ebrill 2022 erbyn mis Tachwedd 2022

Cafodd y datganiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 04 Mai 2022 a’i gyhoeddi ar 08 Mai 2022.